Llwybrau Cenhedloedd: Cyd-destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi
By (Author) Jerry Hunter
University of Wales Press
University of Wales Press
23rd July 2012
United Kingdom
Professional and Scholarly
Non Fiction
266.60899755
Paperback
247
Width 138mm, Height 216mm
A ground-breaking volume which examins material in three languages - Welsh, English and Cherokee (Dsalagi) - while discussing different aspects of the missionary work of two Welsh Baptists who lived and worked amongst the native American tribe.
"A wladychwyd y Cymry Ynteu ai gwladychwyr oeddent Ceir golwg newydd ar y pwnc llosg hwn yn y gyfrol arloesol a dadlennol hon, sy'n trafod rhan gymhleth a diddorol y Cymry (yn bennaf ym mherson Evan Jones) yn ffawd drist cenedl frodorol y Cherokee yn y Taleithiau. Dyma lyfr cyfoethog, cynnil a chytbwys sy'n ennyn parch o'r newydd at oreuon y genedl Anghydffufriol ac yn cyfannu'r darlun a gychwynwyd yn y clasur Wales in Kasia." Athro M. Wynn Thomas, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe "Wrth adrodd hanes hynod ddadlennol y cenhadon Evan Jones a Thomas Roberts ymhlith cenedl y Tsalagi (Cherokee), mae Jerry Hunter yn archwilio grymoedd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol yr 1820au a'r 1830au yn America. Mae'n cyflwyno rhai o syniadau canolog Astudiaethau Cenhedloedd Brodorol America i gynulleidfa Gymraeg, tra hefyd yn ein gorfodi i ail ystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau Cymreig heddiw: cenedlaetholdeb a chrefydd; iaith a diwylliant; cymhathiad diwylliannol a'r frwydr i gynnal traddodiadau neilltuol. Heb os, mae 'Llwybrau Cenhedloedd' yn gampwaith o astudiaeth gymharol." Dr. Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe
Mae'r Athro Jerry Hunter yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Hon yw ei bumed gyfrol academaidd. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn (2004). Mae wedi cyhoeddi un nofel i blant ac un i nofel i oedolion, ac enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol (2010).